Gwynu Dannedd

Gwynu Dannedd

Mae gwynu dannedd yn golygu ysgafnhau lliw presennol y daint. Mae y broses yn cynnwys sawl ymweliad â'r deintydd ynghyd â sesiynau gartref. Mae gwynu dannedd ond ar gael fel triniaeth preifat.
Mae mwy a mwy o bobl yn talu i gael dannedd mwy disglair a gwynach. Ond a yw gwynu dannedd yn gweithio ac a yw'n ddiogel? Dyma'r atebion i gwestiynau cyffredin am y driniaeth

Beth yw Gwynu Dannedd?

Mae'n golygu 'bleachio' eich dannedd i'w gwneud yn mwy disglair a gwyn. Ni all gwynu dannedd wneud eich dannedd yn hollo wyn, ond gall ysgafnhau'r lliw presennol

Pwy sydd yn gallu cynnig triniaeth gwynu dannedd?

Mae y GDC, sef y sefydliad sy'n rheoli gweithwyr deintyddol proffesiynol, wedi penderfynu bod gwynu dannedd yn fath o ddeintyddiaeth. Mae hyn yn golygu mai dim ond deintydd neu weithiwr deintyddol proffesiynol arall y dylech gael i wynu eich dannedd,

Beth sydd yn digwydd yn ystod y broses o wynu eich dannedd?

Bydd angen i chi ymweld â'r deintydd dros ychydig fisoedd. Bydd y deintydd yn cymryd argraff o'ch dannedd i wneud "mouthguard" a bydd yn eich cyfarwyddo sut i'w ddefnyddio gyda'r "bleach". Wedyn bydd rhaid neud yr un peth yn reolaidd adref dros gyfnod o 2-4 wythnos.

Sut allai drefnu cael y driniaeth?

Fe all y deintydd esbonio os bod gwynu dannedd yn addas i chi.

Ydi gwnyu yn cadw dannedd yn wyn yn barhaol?

Na, tydi gwynu dannedd ddim yn roses parhaol. Mae'n bosib para am ychydig fisoedd hyd at tair mlynedd, Mae yn amrywio o person i berson ac yn dibynu os eich bod yn ysmygu, yfed gwîn coch, te neu goffi.

Beth yw y peryglon?

Mae siawns y gall eich deintgig (gums) fod yn sensitif i'r cemegau a ddefnyddir, yn enwedig os oes gennych dannedd sensitif eisoes

Prîs y Triniaeth yw £295. Cysylltwch a Ni

cyCymraeg